Feature

Achub Un o bob Chwech

Mae’r DU yn enwog am ei bywyd gwyllt anhygoel, ond mae’r pwysau cynyddol ar ein bywyd gwyllt yn golygu bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Brydain Fawr, ac yng Ngogledd Iwerddon, mae 12% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Aderyn Drycin Manaw
On this page

View this page in English

Dychmygwch pe bai ein clogwyni môr yn tawelu ac nad oeddent bellach yn llawn adar môr fel y Gwylanod Coesddu a’r Palod yn creu stŵr. Gallai awyr yr haf fod yn wag o’r Wennol Ddu, a chân y Gylfinir yn hen hanes o amgylch ein hucheldiroedd.  

Yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, mae'r DU bellach yn un o'r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf ar y Ddaear.  Mae’r Alban mewn perygl o golli un o bob naw rhywogaeth, gyda Chymru’n wynebu colled bosibl o 18% o rywogaethau. 

Mae’n amlwg bod angen i ni wneud llawer mwy i achub ein bywyd gwyllt cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Rydym ni’n gweithredu i helpu i achub tua 100 o rywogaethau, neu grwpiau o rywogaethau, sydd fwyaf mewn angen. 

Dim ond gyda’ch help chi y mae ein gwaith yn bosibl.  

Gyda’ch help chi, gallwn fynd â natur sydd dan fygythiad i ffynnu

Gyda’ch help chi, gall natur ffynnu eto

Gylfinir

Roedd y Gylfinir yn wynebu risg o ddifodiant yng Ngogledd Iwerddon. Drwy greu cynefinoedd nythu a monitro cywion bach, mae’r project Curlew LIFE wedi adfer gobaith i’r rhywogaeth.   
  
Mae’r project yn gweithio gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig, a’i nod yw rhoi hwb i boblogaethau adar sy’n bridio mewn pum gwahanol leoliad. Eleni, mae Gylfinirod yn ôl ar eu nythod ym mhob un o’r safleoedd, ond mae’r dechrau oer a llaith i’r gwanwyn wedi achosi rhai oediadau ac, mewn rhai achosion, dinistr.   
  
Mae Gylfinirod yn wynebu amryw o heriau drwy gydol y tymor bridio, ac mae nythod cynnar yn Lough Erne a Mur Hadrian eisoes wedi dioddef ysglyfaethu. Yn y cyfamser, fe wnaeth rhai o’r nythod cyntaf yn RSPB Insh Marshes ddioddef llifogydd oherwydd glaw trwm ar ddechrau’r tymor bridio.   
  
Mae’n dal i fod yn gynnar yn y tymor, fodd bynnag, ac mae’r timau’n dal i ddarganfod mwy o nythod – a phob un yn llawn gobaith ar gyfer dyfodol y rhywogaeth. Mae eich cefnogaeth yn golygu y gallwn ddiogelu mwy o’r adar hyn sy’n bridio ar yr adeg hollbwysig hon. Nawr, mae pob cyw bach yn bwysig.

Cywion Y Gylfinir

Pâl Manaw

Dros wythnosau diwethaf y gwanwyn, mae Palod Manaw wedi bod yn dychwelyd i’n glannau. Ar ynysoedd megis Ramsey, Lundy, St Agnes a Gugh, mae eich cefnogaeth wedi helpu niferoedd Pâl Manaw i gynyddu eto ar ôl ein gwaith i gael gwared â llygod mawr anfrodorol sy’n ysglyfaethu ar eu hwyau a’u cywion.  
  
Yn 2000, roedd 297 pâr o adar yn bridio ar Lundy. Y llynedd, bron i ugain mlynedd ar ôl dechrau’r gwaith i gael gwared â’r llygod mawr, roedd 12,600 pâr o Balod Manaw yn bridio ar yr ynys. Diolch i chi, ni allwn aros i weld faint o adar ifanc a ddaw allan o’u gwalau yn nes ymlaen yn y tymor.   

Aderyn Drycin Manaw

Llyffantod y Twyni  

Mae Llyffantod y Twyni ymysg ein hamffibiaid mwyaf prin. Oherwydd ailbwrpasu tir, roedd y pyllau tywodlyd bas lle maent yn bridio wedi mynd yn brin.   
  
Diolch i chi, rydym wedi gallu creu cynefin bridio newydd ar warchodfeydd RSPB, megis Mereshead a’r Lodge. O ganlyniad, mae eu niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Y gwanwyn hwn, rydym eisoes yn gweld arwyddion cynnar llwyddiant wrth i niferoedd penbyliaid gyrraedd y miloedd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd timau ein gwarchodfeydd yn aros yn eiddgar i fesur llwyddiant metamorffosis eu Llyffantod y Twyni.  

Llyffant y Twyni

Llymrïaid a Phalod

Mae niferoedd Gwylanod Coesddu a Phalod wedi gostwng yn ddramatig wrth i lymrïaid ddiflannu o’n moroedd. Ar ôl 25 mlynedd o ymgyrchu, gyda chymorth cefnogwyr fel chi, mae Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban wedi cytuno i ddiweddu pysgota llymrïaid diwydiannol o’r diwedd yn holl ddyfroedd yr Alban ac ym Môr y Gogledd yn Lloegr.  Fodd bynnag, yn yr wythnosau diwethaf, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi herio’r penderfyniad. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â mudiadau amgylcheddol eraill, gan ddefnyddio ein lleisiau i achub ein hadar môr.  

Pâl

Y Wennol Ddu

Mae’r Wennol Ddu bellach yn ymddangos ar y Rhestr Goch o adar sy’n peri pryder cadwraethol. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Barratt Developments PLC, sydd wedi gosod dros 5,000 o frics ar gyfer Gwenoliaid Duon yn eu hadeiladau newydd i’w hannog i nythu yn ein trefi a’n dinasoedd.

Y Wennol Ddu

Turturod  

Dylai gwrychoedd prysgog tir amaeth y Deyrnas Unedig fod yn llawn galwadau grwndi Turturod drwy gydol y gwanwyn a’r haf.   
  
Ar ôl trydedd flwyddyn o atal hela’r rhywogaeth hon yn ne-orllewin Ewrop, mae niferoedd y golomen fudol hoff hon sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn cynyddu. Gyda’ch cymorth chi, mae’r tîm Operation Turtle Dove yn gweithio gyda dros 370 o ffermwyr i sicrhau eu bod yn dod o hyd i gynefin bridio delfrydol ar ôl cyrraedd. Mae ffermwyr ledled de a dwyrain Lloegr wedi cael cymorth i greu mwy o lwyni prysgog ar gyfer nythu ac ymylon caeau llawn hadau ar gyfer bwydo, ac mae llawer o adar eisoes wedi bod yn manteisio ar y cynefin newydd hwn.   
  
Diolch i chi, rydym yn gobeithio gweld cenhedlaeth nesaf yr adar hyn yn magu plu cyn bo hir, gan nodi dechrau adferiad rhyfeddol i’r rhywogaeth.  

 Y Durtur

Llygod y Dŵr

Mae Llygod y Dŵr wedi diflannu o 94% o’r mannau lle roedden nhw’n arfer ffynnu, oherwydd ysglyfaethu a cholli cynefinoedd. Mewn partneriaeth â Cumbria Connect, Ymddiriedolaeth Afonydd Eden, ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rhyddhawyd 204 o Lygod y Dŵr a fagwyd mewn caethiwed yn Wild Haweswater y llynedd.

Llygod y Dŵr

Rydym hanner ffordd yno!   

Diolch i’ch rhoddion hael, rydych yn ein helpu i atal rhywogaethau rhag diflannu o’n glannau. Mae ein hapêl Un o bob Chwech wedi cyrraedd:   
   
£80,000   
   
Rydym yn gobeithio codi £140,000 i helpu rhywogaethau dan fygythiad i ffynnu.   
   
Gallai eich rhodd unigol neu reolaidd ein helpu i weithredu i warchod tua 100 o rywogaethau blaenoriaeth a chefnogi llawer mwy, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.  

Cyfrannu i achub bywyd gwyllt

Gallai eich cyfraniad neu rodd cyson warchod tua 100 o rywogaethau blaenoriaeth a bod o fudd i lawer mwy o rywogaethau, yma yn y DU a ledled y byd.

Helpwch ni i wneud y rhai sydd dan fygythiad i ffynnu
  1. Gwneud cyfraniad
Share this article